Kirsty Williams AC

 

David Rees AC

Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Stryd y Pierhead

Caerdydd

CF99 1NA

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pierhead Street

Cardiff

CF99 1NA

E-bost: kirsty.williams@cymru.gov.uk

Ffôn: 0300 200 7277

24 Mawrth 2015

 

Annwyl Gadeirydd

 

Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

 

Diolch i chi unwaith eto am y cyfle i gyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor ar 19 Mawrth.

 

Yn dilyn cwestiynau gan y Pwyllgor ynghylch offeryn aciwtedd y Prif Swyddog Nyrsio, roeddwn yn meddwl y gallai fod yn ddefnyddiol imi nodi fy nealltwriaeth na fydd yr offeryn aciwtedd yn darparu cymhareb llinell sylfaen, i ddangos bod lefelau staffio’n is na’r hyn sy’n ddiogel,  y gellir ei chymhwyso ar draws wardiau acíwt i oedolion. Arf cynllunio'r gweithlu ydyw, sy'n dibynnu ar y data a gaiff eu casglu ddwywaith y flwyddyn, i roi gwybod ynghylch gosod yr isafswm nyrsio ar gyfer ward benodol. Fel y disgrifiwyd gan y Prif Swyddog Nyrsio, ni ellir ei defnyddio ar wahân;  mae'n rhaid ei ddefnyddio ar y cyd â barn broffesiynol a ffactorau eraill i ganfod y nifer priodol o staff sydd eu hangen.

 

Pan gyflwynwyd yr offeryn aciwtedd, mae'n werth nodi bod Coleg Brenhinol y Nyrsys wedi datgan:

 

“The [acuity and dependency] tool has been tested in adult acute medical and surgical and has been shown to be helpful in developing the appropriate staffing establishment, in the medium to long term. The Welsh acuity and dependency tool is helpful; however it is not a panacea for dictating the daily staffing levels of a ward. It is not designed to give immediate staffing levels and it does not override the professional /clinical judgement of the ward manager to appropriately manage the nursing work load in order to provide safe staffing levels.”

 

 

 

 

Fel yr wyf wedi disgrifio eisoes i'r Pwyllgor, mae'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio yn darparu dull trionglog o sicrhau lefel briodol, ddiogel o staffio. Mae hyn yn cynnwys cymarebau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, y defnydd o'r offeryn aciwtedd i gefnogi'r gwaith o gynllunio gweithlu, ac arfer barn broffesiynol. Yn ogystal, bydd dyletswydd drosfwaol a gorfodadwy a roddir ar sefydliadau'r GIG yn is-adran 10A (1) (a) (i’w fewnosod yn Neddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 drwy gyfrwng adran 2(1) o’r Bil) yn sicrhau bod yr angen am lefelau diogel staffio nyrsio yn cael ei gynnwys mewn datblygu polisi a gwasanaethau, gan gynnwys pennu cyllideb.

 

Rwyf wedi gwrando ar y dystiolaeth a ddarparwyd gan y tystion academaidd annibynnol. Tynnodd yr Athro Griffiths sylw at y ffaith nad oedd unrhyw dystiolaeth o gwbl i gefnogi defnyddio dim ond systemau cynllunio gweithlu lleol, heb gymhareb yn greiddiol i hynny.  Mae'n werth nodi iddo ddweud:

 

“without a shadow of a doubt, the alternatives that are being proposed have absolutely no evidence and, actually, the one natural experiment that we have suggests that, in California, there was a move, as they went from a mandatory use of local workforce planning systems to a system with a minimum ratio and the mandatory use of such systems - which is, essentially, the legislation that you’re proposing - that we saw improvements in staffing. "

 

Gobeithio y bydd yr ohebiaeth hon yn ddefnyddiol ichi, ac edrychaf ymlaen at ddarllen casgliadau eich Pwyllgor ar egwyddorion cyffredinol y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).

 

Yn gywir

 

Kirsty Williams

Aelod Cynulliad Brycheiniog a Sir Faesyfed